Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mai 2023
Amser:
09.16 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13323
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru Sara Jermin, Comisiynydd Plant Cymru Ruth Coombs, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? : sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.
2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu â'r Pwyllgor sylwadau gan blant a phobl ifanc ar yr effaith y mae gwahaniaethu yn ei chael ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant a sut y mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau addysg dysgwyr.
2.3 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu, pan gaiff ei gyhoeddi, adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg ar ddarpariaeth Gymraeg i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
3 A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? : sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
3.2 Cytunodd y Comisiwn i gysylltu â rhanddeiliaid i weld sut beth yw darpariaeth cymorth i deuluoedd mewn ardaloedd gwledig.
3.3 Cytunodd y Comisiwn i ddarparu unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod teuluoedd yn symud eu plant i ddarpariaeth arbenigol oherwydd yr amseroedd aros ar gyfer asesiadau mewn addysg brif ffrwd.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6 Mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl - trafod y dystiolaeth
6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.
6.2 Cytunodd yr Aelodau i fynd ar drywydd rhai pwyntiau penodol a godwyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon - trafod y dull gweithredu
7.1 Cytunodd yr Aelodau i gydweithio â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
7.2 Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth ac i ysgrifennu at randdeiliaid allweddol i ofyn am eu barn.
8 Diweddariad ar weithgareddau'r Pwyllgor
8.1 Rhoddodd yr Aelodau ddiweddariadau llafar ar weithgareddau’r Pwyllgor yr oeddent wedi’u cyflawni yn ystod y tymor.
8.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cyfarfodydd a ganlyn a gynhaliwyd:
- Diweddariad ar gyfarfodydd gweinidogol misol
- Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
- School of Hard Knocks
- Hope not Handcuffs
- CITB
- BBFC
- Y Comisiynydd Plant
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Cymdeithas
- The Brilliant Club
- Schoolwear Association
8.3 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ac at holl brifysgolion Cymru ar bwynt penodol a godwyd ynghylch myfyrwyr tramor.